OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 2162 (Cy. 211) (C. 97)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dyma’r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 18 Awst 2014 adran 2 i’r graddau y mae’n ymwneud ag Atodlen 1 (cyngor y gweithlu addysg) o Ddeddf 2014 a’r paragraffau a ganlyn o Atodlen 1 iddi—
(a) paragraff 3(1), (2), (3), (4)(a) a (5) (aelodaeth);
(b) paragraff 4 (aelodaeth: darpariaeth bellach);
(c) paragraff 5 (deiliadaeth);
(d) paragraff 6 (diswyddo);
(e) paragraff 7 (tâl, lwfansau a threuliau aelodau);
(f) paragraff 9(1), (2) a (3) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r prif swyddog); ac
(g) paragraff 12 (pwyllgorau’n gyffredinol).
Mae’r adran honno a’r paragraffau yn Atodlen 1 i Ddeddf 2014 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag aelodaeth Cyngor y Gweithlu Addysg a phenodi aelodau iddo.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Ddarpariaeth |
Y Dyddiad Cychwyn |
Rhif O.S. |
Adran 42 |
14 Gorffennaf 2014 |
O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63) |
Adran 43 |
1 Medi 2014 |
O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63) |
Adran 44 |
14 Gorffennaf 2014 |
O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63) |
Adran 48 |
14 Gorffennaf 2014 |
O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63) |
Paragraff 1(1), (2) a (6) o Atodlen 3 |
14 Gorffennaf 2014 |
O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63) |
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 2162 (Cy. 211) (C. 97)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2014
Gwnaed 7 Awst 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 50(4) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2014.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 18 Awst 2014
2. Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 i rym yw 18 Awst 2014—
(a) adran 2 i’r graddau y mae’n ymwneud ag Atodlen 1 (cyngor y gweithlu addysg);
(b) yn Atodlen 1—
(i) paragraff 3(1), (2), (3), (4)(a) a (5) (aelodaeth);
(ii) paragraff 4 (aelodaeth: darpariaeth bellach);
(iii) paragraff 5 (deiliadaeth);
(iv) paragraff 6 (diswyddo);
(v) paragraff 7 (tâl, lwfansau a threuliau aelodau);
(vi) paragraff 9(1), (2) a (3) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r prif swyddog); a
(vii) paragraff 12 (pwyllgorau’n gyffredinol).
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
7 Awst 2014